9 Rhagfyr 2016

 

 

Annwyl gyfaill

 

Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon

 

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i addysg a dysgu proffesiynol athrawon, yn arbennig, parodrwydd y gweithlu i weithredu'r cwricwlwm newydd.  Mae'n ceisio tystiolaeth yn benodol ar y canlynol:

·         Y trefniadau o ran datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu presennol;

·         Rôl addysg gychwynnol athrawon;

·         Digonolrwydd y gweithlu yn y dyfodol.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad.  Mae'r Atodiad yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau'r ymgynghoriad, a dylid ystyried y rhain yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor.

 

 

 

 

 

 

 

 

Dylid cyflwyno ymatebion erbyn dydd Gwener 27 Ionawr 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn. 

 

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Marc Wyn Jones, Clerc y Pwyllgor, ar 0300 200 6565.

 

Yn gywir 

Lynne Neagle AC
Cadeirydd

 


 

Atodiad

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth 

1.  Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn ar gael drwy gysylltu â'r Clerc.

Cyflwyno tystiolaeth

2.  Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o'ch cyflwyniad at: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru

Fel arall, gallwch ei hanfon at:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA.

3.  Dylai unrhyw sylwadau gyrraedd erbyn 20 Ionawr 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

4.  Wrth baratoi eich tystiolaeth, cadwch y canlynol mewn cof:

 

Canllawiau ar gyfer tystion sy'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5.  Mae'r Cynulliad yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf bosibl.  Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy'n cyflwyno

 

tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau.  Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

·                     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·                     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

·                     Defnyddiwch ffont sans serif, fel Lucida Sans.

·                     Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·                     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·                     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·                      Os hoffech gyfeirio at ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi, dylech gynnwys hyperlinc at y ddogfen honno, yn hytrach na chopi caled o'r ddogfen ei hun.

6.  Pan fo'n bosibl, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd.  Pan fyddwch yn cyflwyno sgan neu PDF, yn enwedig pan fyddant yn llythyrau wedi'u llofnodi neu'n dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno'r ddogfen Word wreiddiol gyda hi.

Cyffredinol

7.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â'u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

8.  Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar.

9.  Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau; mae rhestr o'r rhain ar gael ar gais.  Mae copi o’r llythyr hwn hefyd wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.  Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymgynghori a'r Atodiad at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad